Mae Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru wedi bod yn cyfarfod ag aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dros yr wythnosau nesaf bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych faint o arian y bydd y Llywodraeth yng Nghymru yn ei wario. Rydym eisiau sicrhau bod, o leiaf, 21 miliwn, os nad mwy, yn cael ei wario ar helpu plant a phobl ifainc anabl a’u teuluoedd i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i fyw eu bywydau fel y maent eisiau.
Isod gwelir amcanion ein hymgyrch – dyma wnaethoch chi ddweud wrthym sydd yn bwysig i chi. Allwch chi ddweud wrthym pa rai rydych yn meddwl sydd fwyaf pwysig trwy restru’r amcanion o 1 i 7.