Disabled Children Matter Wales *
* *
*
  Hafan > Llofnodwch > Telerau ac Amodau
* * * * *
*  
*

Darllenwch y telerau a’r amodau a ganlyn yn ofalus, os gwelwch yn dda, gan eu bod yn rheoli’r defnydd o’r wefan hon (dcmw.org.uk):

1. Eich defnydd o’r wefan hon
Y mae’ch defnydd o’r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn, a ddaw i rym ar y diwrnod cyntaf o ddefnydd o’r wefan. Yr ydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon dim ond er dibenion cyfreithlon, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau, cyfyngu ar, nac yn llesteirio ar y defnydd a’r mwynhad o’r wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Y mae’r cyfryw gyfyngu a llesteirio yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon neu a all aflonyddu ar neu beri trallod neu anhwylustod i unrhyw berson, trosglwyddo deunydd anllad neu dramgwyddus neu darfu ar lif normal ymddiddan o fewn y wefan hon.

2. Addasu’r telerau a’r amodau
Y mae Cyswllt Teulu yn neilltuo’r hawl i newid y telerau a’r amodau drwy bostio’r newidiadau ar-lein. Y mae parhad eich defnydd o’r wefan ar ôl i’r newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y’i addaswyd.

3. Hawlfreintiau
Y mae hawlfraint yn y deunydd (gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, logos, ffotograffau, a gwedd gyffredinol y wefan) ym mherchenogaeth Cyswllt Teulu. Fe waherddir defnydd masnachol neu gyhoeddi’r deunydd gan gynnwys atgynhyrchu, storio, addasu, dosbarthu neu gyhoeddi heb gydsyniad ysgrifenedig blaenorol Cyswllt Teulu neu, ble y bo’n gymwys, perchennog (perchnogion) hawlfraint briodol, ac eithrio er eich defnydd personol neu anfasnachol eich hun.

4. Ffotograffau
Y mae unrhyw ffotograffau o blant a phobl ifanc a ddefnyddir yn y wefan hon yn ffotograffau o fodelau, oni bai’r datganir yn wahanol.

5. Dolenni i wefannau allanol
Nid yw Cyswllt Teulu yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau trydydd parti a gysylltir, naill ai i neu oddi wrth wefan Cyswllt Teulu, ac nid yw o angenrheidrwydd yn cymeradwyo’r farn a fynegir oddi fewn iddynt. Fe ddylai unrhyw wefan sy’n dymuno creu dolen i wefan Cyswllt Teulu, neu sy’n gofyn am ddolen i gael ei chreu iddynt, gyfeirio at ein polisi dolenni.

6. Cyfyngiad ar atebolrwydd
Nid yw Cyswllt Teulu yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrodau, gan gynnwys, heb gyfyngiad, yn anuniongyrchol neu ddifrodau canlyniadol, colli elw, neu unrhyw ddifrodau pa beth bynnag sy’n tarddu o, neu mewn cysylltiad â’r defnydd neu golli defnydd o’r wefan hon. Nid yw Cyswllt Teulu yn gwarantu bod y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd yn y wefan hon yn ddi-dor nac yn ddiwall, nac y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan hon neu’r gweinyddwr sy’n ei roi ar gael yn lân oddi wrth firysau neu namau. Y mae defnydd o’r wefan hon a’r wybodaeth yn gyfan gwbl yn gyfrifoldeb i’r defnyddiwr yn unig. Nid mewn unrhyw amgylchiad y bydd Cyswllt Teulu yn atebol am unrhyw ddifrodau pa beth bynnag sy’n tarddu o neu sy’n gysylltiedig â’r wefan hon. Eich unig gywiriad allgynhwysol ar gyfer anfodlonrwydd gyda’r wefan hon yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan a’r wybodaeth.

7. Cywirdeb y Cynnwys
Tra bod pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i sicrhau cywirdeb y cynnwys, ni ellir cymryd cyfrifoldeb am unrhyw wall neu anwaith.

8. Preifatrwydd
Y mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’ch diogelwch ar-lein. Darllenwch y polisi canlynol, os gwelwch yn dda, i ddeall sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin. Fe all y polisi hwn newid o bryd i’w gilydd, ac felly gwiriwch yn ôl bob hyn a hyn, os gwelwch yn dda. Fe wna’r polisi hwn adael ichi wybod:

Pa wybodaeth sy’n bersonol ganfyddadwy a gesglir oddi wrthych?
Y mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn casglu’r wybodaeth a ganlyn parthed ymwelwyr â’n gwefan: cyfeiriad PRh, gwybodaeth parthed pa dudalennau a gyrchir a pha bryd, gwybodaeth a wirfoddolir gennych, megis gwybodaeth mewn arolwg, cyfeiriad e-bost a’r dull cyfathrebu sydd amgenach gennych.

Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Y mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir amdanoch chi i’n cynorthwyo ni ddeall mwy am sut y defnyddir ein gwefan. Drwy lofnodi’r ddeiseb: ‘Yr wyf eisiau hawliau a chyfiawnder i bob plentyn anabl yng Nghymru’, yr ydych yn cytuno i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio i gefnogi’r ymgyrch. Y mae ar blant o dan 18 mlwydd oed angen cydsyniad i dderbyn newyddion am yr ymgyrch oddi wrth Plant Anabl yn Cyfri Cymru ond fe allant lofnodi’r ddeiseb heb gydsyniad. Ni chysylltir â neb (gan gynnwys plant) nad ydynt yn llofnodi am newyddion gan Plant Anabl yn Cyfri Cymru. Fodd bynnag, fe gedwir eu gwybodaeth a’i hychwanegu at y ddeiseb.

Pwy sy’n casglu’ch gwybodaeth?
Plant Anabl yn Cyfri Cymru sydd biau’r wybodaeth a gesglir ar y wefan hon; fe rennir y wybodaeth ond gyda sefydliadau sy’n bartneriaid iddynt (Cyswllt Teulu Cymru, Plant yng Nghymru, Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru). Ni wnawn werthu na rhentu’r wybodaeth hon i drydydd partïon. Yr ydym yn casglu gwybodaeth ar amryw o wahanol fannau ar ein gwefan.

Gyda phwy y mae Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif yn rhannu’ch gwybodaeth?
Y mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru wedi ymrwymo i warchod data personol eu cefnogwyr ac aelodau. Fe fydd unrhyw fanylion a roddwch inni’n cael eu cynnal yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998.

Beth yw fy newisiadau parthed casglu, defnyddio a dosbarthu fy ngwybodaeth?
Ni wna Plant Anabl yn Cyfri Cymru ddatgelu unrhyw ran o’ch gwybodaeth sy’n bersonol ganfyddadwy, ac eithrio ble’r ydych wedi rhoi’ch caniatâd penodol. O bryd i’w gilydd, fe allwn ni ddymuno cysylltu â chi gyda’r newyddion diweddaraf am ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru. Fe allwch ddewis ymuno â’r math hwn o gyswllt gan ddefnyddio’r blychau ticio a ddarperir. Os anfonir e-byst atoch gyda gwybodaeth ac nad ydych eisiau parhau i’w derbyn, a fyddech cystal â dilyn y cyfarwyddiadau ar waelod yr e-bost, a wna ddweud wrthych chi sut i ddad-danysgrifio i beidio â derbyn rhagor o newyddion.

Beth yw polisi Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif ynglŷn â chaniatáu imi ddiweddaru, cywiro neu ddileu fy ngwybodaeth bersonol ganfyddadwy?
Y mae cywirdeb eich gwybodaeth ganfyddadwy unigol yn bwysig i Cyswllt Teulu. Os ydych yn newid cyfeiriad post neu e-bost, neu y mae unrhyw wybodaeth arall sydd yn ein meddiant yn anghywir neu’n hen, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, yn info@dcmw.org.uk, neu ysgrifennwch atom yn: Plant Anabl yn Cyfri Cymru, d/o Cyswllt Teulu Cymru, 33-35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HB.

Pa ragofalon diogeledd sy’n bodoli i ddiogelu rhag colli, camddefnyddio neu newid fy ngwybodaeth?
Pan roddwch wybodaeth bersonol i Plant Anabl yn Cyfri Cymru, fe gymrwn gamau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn ddiogel. Fe all manylion nad ydynt yn sensitif (eich cyfeiriad e-bost, ac ati) gael eu trosglwyddo’n arferol dros y rhyngrwyd, ac ni ellir byth warantu hyn i fod yn 100% ddiogel. O ganlyniad, er ein bod yn ymdrechu’n daer i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol, ni all Plant Anabl yn Cyfri Cymru sicrhau na gwarantu diogeledd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei throsglwyddo inni, a’ch cyfrifoldeb chi fydd gwneud hynny. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich trosglwyddiad, y mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau rhesymol i sicrhau’i ddiogeledd ar ein systemau.

Anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, at websupport@dcmw.org.uk gydag unrhyw gwestiynau parthed ein polisi preifatrwydd.

9. Sylwadau neu gwynion
Fe fydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Fe fydd unrhyw anghydfodau sy’n codi yma yn gyfan gwbl ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr. Fe ddylid anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau parthed y wefan at websupport@dcmw.org.uk gan gynnwys ‘DCMW’ yn llinell pwnc eich e-bost.
 
Children in Wales Contact a Family Cerebra Mencap Learning Disability Wales
Action For Children Barnardo's Cymru Family Fund Scope Cymru NDCS Cymru
*
*

Plant Anabl yn Cyfrif Cymru, d/o Cyswllt Teulu Cymru, 33-35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HB.
Ffôn: 029 2039 6629 | Ffacs: 029 2039 6625 | E-bost : info@dcmw.org.uk
Elusen Gofrestredig Rhif : 284912

*
© Copyright Contact a Family 2007*