Yr ydym eisiau cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru i lofnodi i gefnogi ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru, fel na all y llywodraeth anwybyddu’n gofynion.
Llofnodwch yn awr, os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio’r ffurflen isod, a gofynnwch i bawb yr ydych yn adnabod lofnodi hefyd!
Yr wyf eisiau hawliau a chyfiawnder i bob plentyn a pherson ifanc anabl yng Nghymru.
Yr wyf eisiau i Lywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod gan blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yng Nghymru:
Y wybodaeth gywir ar yr amser cywir
Gwir ddewis o addysg o ansawdd
Y gwasanaethau iechyd y mae arnynt angen i arwain bywyd cyffredin
Mynediad llawn at weithgareddau chwarae a hamdden
Dweud gwirioneddol gyda chynllunio’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn
Mynediad llawn at gyfleusterau cymunedol
Digon o arian i fyw arno.
Yr wyf eisiau i’r Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yn eu hardal yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel sydd yn eu galluogi hwynt i arwain bywydau cyffredin.
Drwy anfon y ffurflen hon, fe ddewch yn gefnogwr i ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru, ac fe fydd eich gwybodaeth ym meddiant tîm ymgyrchu Plant Anabl yn Cyfri Cymru. Ni anfonir eich gwybodaeth ymlaen at unrhyw 3ydd parti. A fyddech cystal â gweld ein telerau ac amodau am ragor o fanylion.
Os nad ydych chi neu rywun yr ydych yn adnabod yn defnyddio e-bost, ond y maent eisiau dod yn gysylltiedig, fe allant ffonio inni neu ysgrifennu atom yn lle hynny – gweler ein tudalen Cysylltwch â ni.
|