Y mae Cyswllt Teulu Cymru a Shelter Cymru wedi cyhoeddi adroddiad syn edrych ar brofiad teuluoedd o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yng Nghymru. Y mae'r ymchwil yn amlygu cynnydd a wnaed ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddileu prawf modd i rieni yng Nghymru yn 2005.
Y mae canfyddiadau'n cynnwys:
cynnydd arwyddocaol yn nifer yr ymholiadau, cymeradwyaeth a chwblhau ar gyfer Grantiau Cyfleusterau ir Anabl ar gyfer plant yng Nghymru; gostyngiadau cyson yn yr amser cwblhau cyfartalog ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer plant ers y dileu; nid yw dileu'r prawf modd wedi arwain at gynnydd amlwg mewn costau.
Ond fe ganfu'r ymchwil hefyd feysydd ble y mae yna berfformio gwael:
gwybodaeth annigonol ar gael am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl; cynnydd cyfyngedig ei natur o ran addasiadau mwy cymhleth; y mae lefelau boddhad gydar broses Grantiau Cyfleusterau ir Anabl yn dal i amrywion sylweddol, yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw yng Nghymru.
Y mae'r adroddiad ar gael iw lawrlwytho oddi ar wefan Cyswllt Teulu. |
|
|
|