Disabled Children Matter Wales *
* *
*
  Hafan > Newyddion > Dathliadau i Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
* * * * *
*  
*
Dathliadau i Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl AnablY mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl drwy gynnal diwrnod llawn o ddigwyddiadau dathliadol yn y Senedd a Thy Hywel ym Mae Caerdydd. Y mae un digwyddiad yn cael ei drefnu gan Anabledd Dysgu Cymru pan fydd aelodau'r Rhwydwaith Pobl Anabl Ifanc, a hwylusir gan Plant yng Nghymru, yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt. Fe fydd y cwestiynau wediu canoli ar y saith amcan sydd gan Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru.

Fe fyddant yn cynnwys cwestiwn oddi wrth un person ifanc am gyngor ar yrfaoedd i bobl anabl ifanc ac un arall am fywn annibynnol a chael digon o arian i fyw arno.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, fe fydd y bobl anabl ifanc yn cael cyfarfod anffurfiol gyda'r Grwp Gorchwyl, a fynychir gan gynrychiolwyr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru ac uwch-weision sifil, ac a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Blant yn gynharach eleni. Fe fydd y bobl ifanc yn rhoi cyflwyniad byr ynglyn âr amcanion cyfredol ar gyfer yr Ymgyrch:

  • Mwy o bethau i wneud a lleoedd i fynd iddynt
  • Mwy o egwyliau byrion;
  • Gwell mynediad at gyfleusterau cymunedol clybiau ieuenctid, ac yn y blaen;
  • Cymorth i wneud cais am fudd-daliadau yn gysylltiedig ag anabledd

    Fe fydd hyn yn galluogi'r Grwp Gorchwyl i glywed yn uniongyrchol oddi wrth bobl anabl ifanc ynglyn â'r materion sy'n effeithio arnynt, ac fe fydd, gobeithio, yn cynorthwyo i gyfarwyddo'r gwaith o gynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.

    Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, a fyddech cystal â chysylltu ag info@dcmw.org.uk

  •  
    Children in Wales Contact a Family Cerebra Mencap Learning Disability Wales
    Action For Children Barnardo's Cymru Family Fund Scope Cymru NDCS Cymru
    *
    *

    Plant Anabl yn Cyfrif Cymru, d/o Cyswllt Teulu Cymru, 33-35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HB.
    Ffôn: 029 2039 6629 | Ffacs: 029 2039 6625 | E-bost : info@dcmw.org.uk
    Elusen Gofrestredig Rhif : 284912

    *
    © Copyright Contact a Family 2007*