Y mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglyn âr ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru.
Fe ellir lawrlwytho'r datganiad oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Y maer Datganiad yn darparu crynodeb o gynnydd hyd yn hyn, yn ogystal â chyhoeddi:
* £1.54 miliwn yn ychwanegol ar gyfer seibiannau byrion yn 2008-09;
* datblygiadau ynglyn â rheoliadau cynllunio ar gyfer toiled Lleoedd Newid; * cyfleusterau ar gyfer adeiladau masnachol newydd a chyhoeddus;
* adolygiad o wasanaethau cadair olwyn; a
* £1.2 miliwn yn ychwanegol dros dair blynedd ar gyfer Cymorth Cynnar.
Y maer ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn croesawu datganiad y Gweinidog fel crynodeb or cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn. Y mae cynnydd cyson yn cael ei wneud ond fe erys angen o hyd am gynllun cydlynol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad, gyda chymorth cyllid arwyddocaol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf os ywr canlyniadau gwael i blant anabl iw gweddnewid.
Fe fydd y trafodaethau rhag-gyllidebol syn digwydd yr haf hwn yn anhepgor bwysig o ran sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.
Cliciwch yma i anfon e-bost at eich AC lleol. |
|
|
|