Plant yng Nghymru yw’r mudiad ambarél cenedlaethol dros blant yng Nghymru. Yr ydym yn dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd i:
- Gwneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn realiti yng Nghymru
- Ymladd dros wasanaethau cynaliadwy o ansawdd a chyfrannau teg i bob plentyn a pherson ifanc
- Sicrhau sylw a thriniaeth arbennig i blant mewn angen a’r sawl sydd wedi’u hymyleiddio
- Rhoi llais i blant a phobl ifanc.
Y mae gan Plant yng Nghymru berthynas partneriaeth gyda Biwro Cenedlaethol y Plant a Plant yn yr Alban. Yr ydym hefyd yn gweithio gyda Plant yng Ngogledd Iwerddon ac yr ydym yn aelod gweithredol o Eurochild a’r Fforwm Cenedlaethol er Lles Plant, fel ei gilydd. |