Y mae Anabledd Dysgu Cymru, fel llais cyfunol y sector gwirfoddol, yn amcanu at hyrwyddo hawl pobl sydd ag anabledd dysgu i gael bywydau â gwerth iddynt.
Yr ydym yn:
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, defnyddwyr gwasanaeth a’u rhiant/gofalwyr
- Ymgyrchu i gynorthwyo plant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu i gyflawni bywydau â gwerth iddynt
- Cefnogi’r sector gwirfoddol a’i fuddiannau
- Darparu a hyrwyddo ymarfer da
Yr ydym yn hyrwyddo ac yn dilyn yn weithredol bedwar egwyddor sylfaenol. Y mae gan bobl sydd ag anabledd dysgu:
- Yr hawl i batrwm cyffredin o fywyd yn y gymuned
- Yr hawl i gael eu trin fel unigolyn
- Yr hawl i gymorth a chefnogaeth ychwanegol wrth ddatblygu’u potensial llawnaf
- Yr hawl i gyfranogi yn yr holl brosesau llunio penderfyniadau a chynllunio gwasanaeth.
I ganfod mwy am Anabledd Dysgu Cymru a’r gwasanaethau y mae’n ei gynnig, a fyddech cystal â mynd i : www.learningdisabilitywales.org.uk neu cysylltwch â 029 2068 1160. |